Mae galwadau ar Gyngor Sir Caerfyrddin i osod mwy o gyfyngiadau parcio yn Llanelli yn dilyn achosion lle gwnaeth parcio anghyfrifol atal y Gwasanaeth Tân rhag cael mynediad ar frys i adeiladau.
Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân adael eu cerbyd a rhedeg i lawr Ffordd y Bryn mewn ymateb i alwad ffôn 999 ar ddau achlysur y llynedd.
Fel rheol, mae’n rhaid i injan dân barcio y tu allan i’r adeilad lle mae’r argyfwng ond nid oedd hynny’n bosib oherwydd bod y ceir wedi parcio’n anghyfrifol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn galw am roi llinellau melyn dwbl ar y ffordd er mwyn atal achosion tebyg yn y dyfodol.
“Os nad yw pobol yn medru parcio’n gyfrifol, mae’n rhaid cymryd mesurau a all arwain at achub bywyd rhywun,” meddai’r cynghorydd Colin Evans sy’n aelod o fwrdd trafnidiaeth y cyngor.