Alexis Tsipiras
Mae cyn-bennaeth banc canolog yr Unol Daleithiau, Alan Greenspan yn credu mai “mater o amser” yw hi cyn i Wlad Groeg gael eu gorfodi i adael parth yr Ewro.

Dywedodd Greenspan nad oes gan y llywodraeth Syriza newydd fawr o ddewis os ydyn nhw am sicrhau datrysiad i’r cytundeb gwerth 240 biliwn Ewro (£179 biliwn) i’w hachub.

“Alla i ddim gweld sut mae’n eu helpu nhw i fod yn rhan o’r Ewro ac yn sicr, dydw i ddim yn gweld sut mae’n helpu gweddill parth yr Ewro, ac rwy’n credu mai mater o amser yw hi cyn i bawb gydnabod mai ymrannu yw’r strategaeth orau,” meddai wrth raglen The World This Weekend ar Radio 4.

Bydd Canghellor Prydain, George Osborne yn mynychu cyfarfod o weinidogion cyllid y G20 yn Nhwrci yfory, ac mae disgwyl i sefyllfa ariannol Gwlad Groeg fod ar frig yr agenda.

Yn ôl Osborne, byddai penderfyniad gan Wlad Groeg i adael parth yr Ewro yn achosi “gwir gythrwfl” a “gwir ansefydlogrwydd ymhlith marchnadoedd ariannol Ewrop”.

Dywedodd Osborne wrth raglen Andrew Marr y BBC ei fod yn awyddus i “annog ein partneriaid i ddatrys yr argyfwng hwn”.