Yr olygfa wedi'r cyrch yng ngwlad Belg dydd Iau (llun: PA)
Mae milwyr arfog wedi cael eu gwasgaru o amgylch safleoedd allweddol yng ngwlad Belg a allai fod yn dargedau i eithafwyr Islamaidd.

Dyma’r tro cyntaf mewn 30 mlynedd i’r awdurdodau ddefnyddio milwyr i gefnogi’r heddlu yn ninasoedd gwlad Belg.

Dywed gweinidog amddiffyn y wlad, Steven Vandeput, y gallai’r milwyr fod yn cael eu hanfon i warchod rhai llysgenadaethau a rhai adeiladau yn ardal Iddewig Antwerp.

Mae gwlad Belg wedi codi ei rybudd brawychiaeth i lefel 3, yr ail uchaf, ers y cyrchoedd ddydd Iau a laddodd ddau a oedd yn cael eu hamau o fod ar fin cyflawni ymosodiadau.