Mae dyn arfog wedi saethu dau blismon yn farw yn ninas Efrog Newydd, a hynny wrth iddyn nhw eistedd yn eu car heddlu.

Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i’r digwyddiad yn Brooklyn, Efrog Newydd yn dweud fod y dyn, a laddodd ei hun wedyn, wedi gwneud sylwadau negyddol ar wefannau cymdeithasol cyn gweithredu.

Roedd Ismaaiyl Brinsley wedi saethu ac anafu ei gyn-gariad yn Baltimore yn gynharach ddoe, ac roedd wedi cyhoeddi sylwadau ar ei chyfrif Instagram hi.

Bryd hynny, roedd wedi gwneud sylw am ladd “dau fochyn” er mwyn gwneud yn iawn am yr achosion lle mae’r heddlu wedi lladd pobol ifanc groenddu yn ddiweddar. Yna, fe aeth yn ei flaen i Brooklyn a saethu’r heddweision, Rafael Ramos a Wenjian Liu.

Ar ôl lladd y plismyn, fe drodd Ismaaiyl Brinsley y gwn arno’i hun.