Lluoedd yn paratoi i adael Afghanistan
Mae dynion arfog y Taliban wedi saethu’n farw uwch swyddog yng Ngoruchaf Lys Afghanistan, meddai’r heddlu.

Dyma’r ymosodiad diweddaraf gan wrthryfelwyr ar y brifddinas, Kabul, wrth i luoedd tramor baratoi i adael y wlad ar ddiwedd y mis.

Cafodd Atiqullah Rawoofi ei saethu’n farw ger ei gartref yn Kabul, meddai Farid Afzali, pennaeth yr heddlu yn y brifddinas.

Yn ôl un o gydweithwyr Atiqullah Rawoofi, roedd dau ddyn ar feic modur wedi tanio gwn ato wrth iddo gerdded o’i gartref i’w gar.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Daw llofruddiaeth Atiqullah Rawoofi ar ôl i hunan-fomiwr ymosod ar ysgol Ffrengig ddydd Iau gan ladd dinesydd o’r Almaen ac anafu nifer o bobl eraill.