Maes awyr Heathrow
Mae disgwyl oedi i deithwyr ym meysydd awyr y DU eto bore ma yn dilyn nam technegol yn y ganolfan rheoli traffig awyr ddoe.

Er bod y system bellach yn gweithio yn ôl yr arfer mae maes awyr Heathrow wedi canslo 38 o hediadau bore ma, ac mae disgwyl oedi pellach i deithwyr eto heddiw.

Cafodd dwsinau o hediadau eu canslo ddoe a bu oedi i nifer o deithiau eraill ar ôl problem gyda system gyfrifiadurol ym mhencadlys y cwmni Nats, sy’n gyfrifol am reoli traffig awyr, bnawn ddoe.

Mae Nats yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad a oedd hefyd wedi achosi oedi i deithwyr ym meysydd awyr Manceinion, Stansted, Luton ac Aberdeen a Chaeredin.

Maen nhw’n cynghori teithwyr i gysylltu a’u cwmniau teithio cyn mynd i’r meysydd awyr.