Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond
Mae gweithiwr diogelwch o Brydain ac un o weithwyr llysgenhadaeth y DU yn Afghanistan wedi cael eu lladd yn Kabul.

Cafodd y cerbyd yr oedden nhw’n teithio ynddo ei ffrwydro gan hunan-fomiwr, gan anafu 33 o drigolion y wlad, ac ail swyddog diogelwch.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond fod yr ymosodiad yn “ofnadwy”.

Yn ôl adroddiadau, mae’r Taliban wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol.