Mae’r corff rhyngwladol Medecins Sans Frontières yn bwriadu cynnal treialon mewn tair canolfan Ebola yng ngorllewin Affrica i geisio dod o hyd i driniaeth addas.

Bydd y treialon yn cael eu cynnal gan dri phartner ymchwil, yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd yn y gwledydd lle bu achosion o Ebola.

Trefnir un o’r treialon gan Sefydliad Iechyd ac Ymchwil Feddygol yng ngwlad Guinea.

Bydd yr ail yn cael ei gynnal gan Sefydliad Meddygaeth Drofannol Antwerp yn yr un wlad, a dydy lleoliad y trydydd ddim wedi cael ei benderfynu eto.