William Pooley, sydd wedi dychwelyd i Sierra Leone
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi nad oes achosion o Ebola yn Nigeria bellach.

Roedd Nigeria wedi cofnodi 20 o achosion o Ebola, gan gynnwys wyth marwolaeth.

Dywedodd cyfarwydd y WHO, Rui Gama Vaz, bod ymdrechion Nigeria i geisio cyfyngu ar achosion posib o’r firws wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.

Daw’r cyhoeddiad gan y WHO ar ôl i 42 diwrnod fynd heibio ers i’r achos olaf o Ebola gael prawf negatif.

Ond fe rybuddiodd Rui Gama Vaz bod angen i Nigeria barhau i fod yn wyliadwrus i atal unrhyw achosion eraill rhag dod i’r wlad o daleithiau eraill.

Mae’r haint yn parhau i ledu yn Liberia, Sierra Leone a Guinea ac mae 4,500 o bobl wedi marw o Ebola.

William Pooley

Yn y cyfamser mae nyrs o Brydain a gafodd ei heintio tra’n gweithio yng ngorllewin Affrica yn dychwelyd i Sierra Leone heddiw i barhau a’i waith.

Dywedodd William Pooley, 29, ei fod wrth ei fod yn dychwelyd i Sierra Leone.

William Pooley oedd y Prydeiniwr cyntaf i gael ei heintio gydag Ebola ac fe gafodd ei gludo yn ôl i Brydain ym mis Awst, lle cafodd driniaeth mewn ysbyty yn Llundain.

Roedd Pooley, sy’n gweithio i King’s Health Partners, wedi cyrraedd y brifddinas Freetown ddoe a bydd yn ailddechrau ar ei waith mewn uned ar wahân sy’n cael ei gynnal gan staff meddygol o Brydain.

Dywedodd William Pooley, “Rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i Sierra Leone i ymuno gyda’r tîm. Mae yna argyfwng gwirioneddol yng ngorllewin Affrica ac mae’r timau sydd allan yno angen ein holl gefnogaeth.

“Dwi rŵan yn edrych ymlaen at fynd yn ôl a gwneud fy ngorau glas i rwystro cyn gymaint o farwolaethau dianghenraid a phosib.

“Dwi’n gwybod fod fy mam a’n nhad yn poeni amdana’ i ond maent yn fy nghefnogi, oherwydd mae’n rhywbeth dwi’n gorfod ei wneud.”

Mae’r nyrs o Sbaen, Teresa Romero a gafodd ei heintio ar ôl bod yn gofalu am offeiriad fu farw o Ebola, bellach yn gwella ac wedi cael prawf negatif am yr haint.

Mae Prydain wedi addo £125 miliwn i fynd i’r afael ag Ebola, gyda’r Prif Weinidog David Cameron yn galw ar arweinwyr eraill i ddyblu eu cyfraniad i 1 biliwn Ewro yr wythnos hon.