Pecynnau bwyd a diod yn paratoi i gael eu gollwng i helpu pobl Yazidi sy'n gaeth ar Fynydd Sinjar
Mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal rhagor o ymosodiadau o’r awyr ar ymladdwyr y grŵp Islamaidd IS wrth i’r argyfwng dyngarol yno waethygu.

Mae eithafwyr yno wedi cadw cannoedd o fenywod o’r llwyth crefyddol lleiafrifol Yazidi yn gaeth, yn ôl swyddog yn Irac tra bod miloedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi.

Mae’r Unol Daleithiau wedi bod yn gollwng pecynnau bwyd a diod i filoedd o bobl Yazidi sydd wedi eu dal yn gaeth gan ymladdwyr ar Fynydd Sinjar.

Roedd yr Unol Daleithiau wedi tynnu ei milwyr o Irac ar ddiwedd 2011 ar ôl mwy nag wyth mlynedd o ryfel, ond cafodd dau fom eu gollwng ar arfau’r ymladdwyr ddoe.

Yn ddiweddarach roedd yr UD wedi lansio ymosodiad awyr arall ger Irbil, yn ôl y Pentagon. Maen nhw’n dweud eu bod yn targedu arfau’r ymladdwyr sy’n cael eu defnyddio i fomio lluoedd Cwrdaidd sy’n ceisio amddiffyn Irbil.

Dros yr wythnosau diwethaf mae’r ymladdwyr wedi llwyddo i gipio nifer o drefi yn ogystal ag argae hydro-electrig a chronfa ddŵr fwyaf Irac.

Mae lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol, sy’n ofni eu bod am gael eu lladd, wedi ffoi o’u cartrefi yn y trefi.

Roedd nifer wedi ffoi i wersyll Khazer, ger Irbil, ond roedd yn wag eto ddoe wrth i’r ymladd barhau gerllaw gan orfodi teuluoedd i ffoi unwaith eto.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae mwy na 500,000 o bobl wedi ffoi o’u cartrefi yn sgil y trais yn Irac ers mis Mehefin, gan ddod a’r cyfanswm eleni i fwy na miliwn.

Mae’r gweithredu milwrol gan yr UD yn erbyn IS wedi cael ei groesawu gan swyddogion Irac a Chwrdaidd yn ogystal ag Ewrop.

O ganlyniad i’r ymladd, mae Lufthansa, Turkish Airlines a chwmnïau awyrennau eraill wedi canslo teithiau i ac o Irbil.

Yn yr UD mae cwmnïau awyrennau o America wedi cael eu gwahardd rhag hedfan dros Irac gan ddweud bod y gwrthdaro yno yn bygwth diogelwch. Mae British Airways hefyd wedi gwahardd hedfan dros Irac dros dro.