Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi galw am “gadoediad dyngarol yn syth ac yn ddiamod” rhwng Israel a Hamas yn Gaza.

Fe wnaeth y cyngor y datganiad mewn cyfarfod brys wrth i Fwslemiaid ddechrau dathlu gwyliau Eid Al-Fitr sydd yn nodi diwedd mis ymprydio Ramadan.

Daw’r alwad am gadoediad yn dilyn rhagor o ymladd rhwng Israel a Hamas, ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb ar saib dros dro.

Hyd yn hyn mae’r ymladd, sydd wedi para bron i dair wythnos, wedi lladd dros 1,030 o Balestiniaid gyda’r rhan fwyaf o’r rheiny yn sifiliaid, yn ôl gweinidogaeth iechyd Palestina.

Dywedodd lluoedd arfog Israel fod 43 o’u milwyr nhw wedi’u lladd yn yr un cyfnod, yn ogystal â dau sifiliad ac un gweithiwr o Wlad Thai. Dros y penwythnos fe orymdeithiodd cannoedd o bobl ar hyd strydoedd ledled Cymru i brotestio yn erbyn y trais sydd yn digwydd yn Gaza.

Datganiad y CU

Dywedodd y datganiad gan 15 aelod y cyngor y dylai Israel a Hamas “dderbyn a gweithredu cadoediad dyngarol lawn yn ystod cyfnod Eid a thu hwnt” – er nad yw’r datganiad yn enwi’r ddwy ochr yn benodol.

Fe aeth y cyngor ymlaen i ddweud y byddai cadoediad yn gyfle i ddod a chymorth dyngarol sydd wir ei angen i bobl Gaza, gan fynegi pryder ynglŷn â’r “crisis yn ymwneud â Gaza a cholledion bywyd ac anafiadau sifiliaid”.

Mae’r datganiad hefyd yn ategu’r alwad ar gyfer datrysiad hir dymor fyddai’n gweld dwy wladwriaeth, Israel a Phalestina, yn byw ochr yn ochr mewn heddwch.

Y Cyngor Diogelwch yw’r corff mwyaf pwerus yn y Cenhedloedd Unedig, gyda phum aelod parhaol (UDA, Rwsia, China, Prydain a Ffrainc) a deg aelod sydd yn cymryd eu tro i fod arni.

Cafodd y datganiad ei ddrafftio gan Jordan, y wlad Arab gynrychioladol ar y cyngor ar hyn o bryd, gyda chadeirydd y cyngor presennol, Rwanda, yn cadarnhau fod cytundeb wedi bod ar y datganiad.

Mae datganiad o’r fath, fodd bynnag, gam yn is na phenderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor Diogelwch.