Mae lle i gredu bod tîm pêl-droed Algeria wedi rhoi eu henillion o Gwpan y Byd i drigolion Gaza.

Dywedodd ymosodwr y tîm cenedlaethol, Islam Slimani heddiw ei fod e a’i gyd-chwaraewyr wedi rhoi’r arian i ffwrdd “gan fod ei angen arnyn nhw’n fwy na ni”.

Collodd Algeria o 2-1 yn erbyn Yr Almaen yn dilyn amser ychwanegol yn rownd yr 16 olaf ym Mrasil ac maen nhw wedi cael croeso mawr ar ôl dychwelyd adref.

Mae trafferthion ariannol wedi bod yn gwmwl tros Gwpan y Byd ym Mrasil eleni, yn dilyn ffrae rhwng chwaraewyr Ghana a swyddogion y Gymdeithas Bêl-Droed.

Cafodd dau o’u chwaraewyr, Sulley Muntari a Kevin Prince-Boateng eu hanfon adref ar ôl sarhau’r rheolwr a tharo un o swyddogion y Gymdeithas.

Roedd yna ffrae rhwng chwaraewyr Cameroon a’u swyddogion nhw hefyd tros fonws perfformiad.

Roedd adroddiadau bod y chwaraewyr wedi bygwth peidio mynd ar yr awyren i Frasil tan fod yr anghydfod wedi’i ddatrys.

Yn gynharach yr wythnos hon, sicrhaodd Arlywydd Nigeria, Goodluck Jonathan y byddai chwaraewyr y wlad honno’n derbyn bonws sydd yn ddyledus iddyn nhw’n fuan.