Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Don Cowie wedi gwrthod cytundeb newydd i aros yng Nghymru, yn ôl adroddiadau.

Mae rheolwr yr Adar Gleision, Ole Gunnar Solskjaer wedi dweud y bydd Cowie, sy’n 31 oed, yn gadael y clwb cyn dechrau’r tymor newydd.

Bu Cowie gyda’r clwb ers tri thymor ac mae e wedi’i gysylltu â chlybiau Blackburn, Rangers a Watford, ei hen glwb.

Chwaraeodd Cowie 99 o gemau i Gaerdydd gan sgorio naw gôl.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i gapten y clwb, Steven Caulker symud i QPR, ac mae eu rheolwr Harry Redknapp yn honni bod Caerdydd wedi derbyn cynnig o £8 miliwn am yr amddiffynnwr canol.