Andy Murray
Mae nifer y tocynnau sydd ar gael ar gyfer rownd derfynol y dynion yn Wimbledon wedi cynyddu ar ôl i Andy Murray gael ei guro ddoe.

Collodd Murray yn yr wyth olaf yn erbyn Grigor Dimitrov.

Mae 23% yn fwy o docynnau ar gael ar wefan Viagogo erbyn hyn ar gyfer yr ornest ddydd Sul.

Ond mae’r cynnydd yn argaeledd tocynnau’n golygu bod eu pris wedi gostwng 10%.

Mae disgwyl i ddwywaith cymaint o bobol wneud cais am docynnau ar gyfer ffeinal y dynion nag y bydd yn chwilio am docynnau ar gyfer ffeinal y menywod.

Dywedodd llefarydd ar ran Viagogo fod ffeinal Wimbledon ymhlith y tri digwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd ar eu gwefan.