Mae Morgannwg wedi disgyn i’r pumed safle yn y tabl T20 Blast yn ystod yr wythnos diwethaf o ganlyniad i fuddugoliaethau i Eryr Swydd Essex, Surrey a Siarcod Sussex.
Ond mae gan Forgannwg gêm wrth gefn tros y Siarcod gyda’r ddwy sir yn gyfartal ar hyn o bryd.
Byddai buddugoliaeth yn erbyn y Pantherod yn Richmond heno yn cryfhau gobeithion Morgannwg o gyrraedd yr wyth olaf.
Mae’r Pantherod ar waelod y tabl, yn dilyn un fuddugoliaeth yn unig eleni ac maen nhw wedi colli wyth allan o ddeg o ornestau hyd yn hyn.
Mae’r ddwy sir wedi ennill un ornest T20 yr un yn Richmond yn y gorffennol.
Mae Murray Goodwin yn dychwelyd i garfan Morgannwg yn dilyn ymadawiad Darren Sammy, ac mae’r bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg yn dal wedi’i anafu.
Mae’r batiwr agoriadol Will Bragg a’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith wedi cael eu hychwanegu at y garfan.
Bydd Morgannwg yn wynebu eu cyn-fowliwr cyflym, James Harris, sydd wedi’i gynnwys yng ngharfan y Pantherod.
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, S Walters, C Cooke, B Wright, W Bragg, M Goodwin, A Salter, W Owen, R Smith, D Cosker, M Hogan.
Carfan 13 dyn Pantherod Swydd Middlesex: E Morgan (capten), D Christian, J Denly, N Dexter, J Harris, R Higgins, D Malan, R Patel, H Podmore, O Rayner, G Sandhu, J Simpson, A Voges