Vladimir Putin - ddim yno (PA)
Fe fydd gwledydd economaidd mawr y byd yn cyfarfod am y tro cynta’ ers 18 mlynedd heb i Rwsia fod wrth y bwrdd.

Ac mae disgwyl i arweinwyr y saith arall anfon neges gry’ at Arlywydd Rwwsia, Vladimir Putin, tros ymyrraeth ei wlad yn yr Wcrain.

Maen nhw’n debyg o ddweud wrtho am gydweithio gydag Arlywydd newydd yr Wcrain, Petro Poroshenko, i atal y gwrthdaro yn nwyrain y wlad, lle mae gwrthryfel gan bobol o dras Rwsiaidd.

Roedd cyfarfod o’r wyth economi mawr – y G8 – i fod i gael ei gynnal yn Sochi yn Rwsia ond fe gafodd ei symud i Frwsel a’i droi’n gyfarfod o’r hen G7 ar ôl i Rwsia feddiannu rhan arall o’r Wcrain, penrhyn y Crimea.

Syria – condemnio Assad

Un o’r materion mawr eraill ar raglen yr Uwch-gynhadledd fydd Syria, gyda chondemniad pellach o’r etholiad sydd newydd ddigwydd yno a galwad arall am gael gwared ar yr Arlywydd Assad.

Ond fe fydd sylw hefyd i bryderon tros effaith y rhyfel cartref yn Syria ar derfysgaeth ryngwladol.

Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ymhlith y rhai’n galw am ragor o ddigolewch ar y ffiniau rhwng gwledydd a’i gilydd.