Cwpan y Byd FIFA
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed Ryngwladol, FIFA, yn wynebu rhagor o gyhuddiadau o lwgrwobrwyo yn dilyn cyhoeddi straeon yn y Sunday Times.

Mae’r papur wedi cael gafael ar filoedd o ddogfennau am gais Qatar i lwyfannu Cwpan y Byd yn 2022 gan honni bod eu cynnwys yn profi bod swyddog pêl droed Qatar adeg cyflwyno’r cais, Mohamed Bin Hammam, wedi talu dros £3m o bunnau i swyddogion FIFA er mwyn prynu eu cefnogaeth i gynnal Cwpan y Byd yno.

Mae yna sibrydion am lwgrwobrwyo ynglyn â chynnal y bencampwriaeth yn Qatar byth ers cyhoeddi’r dewis yn Rhagfyr 2010 ond mae trefnwyr Qatar 2022 a Bin Hamman wastad wedi gwadu’r honniadau.

Yn ôl y trefnwyr, doedd gan Bin Hammam ddim cysylltiad swyddogol efo’r cais ond mae rhai dogfennau yn dangos bod taliadau wedi cael eu gwneud i swyddogion yn Affrica er mwyn, yn ôl honniad y papur, prynu eu cefnogaeth i gais Qatar.

Gwahardd am oes

Cafodd Bin Hammam ei wahardd o bêl-droed am oes yn 2011 ar ôl ei gael yn euog o geisio cynnig llwgrwobrwyon i brynu pleidleisiau yn yr etholiad i ddewis Llywydd FIFA y flwyddyn honno.

Cafodd y gwaharddiad ei ddiddymu flwyddyn yn ddiweddarach gan y Llys Cymodi Chwaraeon benderfynodd nad oedd digon o dystiolaeth i brofi’r honiadau.

Fe wnaeth Bin Hamman roi’r gorau i bêl-droed wedyn gan ddweud ei fod “ wedi gweld wyneb hyll iawn pêl-droed.”

Cafodd ei wahardd am oes am yr eildro beth bynnag yn 2012 am “wrthdrawiad buddianau” tra roedd yn Lywydd Cydffederasiwn Pêl-droed Asia.