Y Pab Ffransis yn gweddio ger y rhwystr ym Methlehem Llun:AP Photo/Ariel Schalit
Mae’r Pab Ffransis wedi dweud bod y gwrthdaro rhwng yr Isreiliaid a’r Palestiniaid “yn gynyddol annerbyniol” ac wedi annog y ddwy ochr i gydweithio er mwyn heddwch.

Mae’r Pab yn ymweld â’r Dwyrain Canol, a’r bore yma roedd ym Methlehem ar y Lan Orllewinol yng nghwmni Llywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas.

Yn y gorffennol mae pob Pab sydd wedi ymweld â’r Dwyrain Canol wedi glanio yn Israel yn gyntaf cyn mynd wedyn i’r Lan Orllewinol.

Y tro yma penderfynodd y Pab Ffransis fynd i Fethlehem yn gyntaf a dathlu offeren ar lwyfan gerllaw Eglwys Gŵyl y Geni sydd wedi ei hadeiladu dros ar y fan ble ganwyd Crist.

Mae Bethlehem wedi ei amgylchynu ar dair ochr gan rwystrau i wahanu’r dref oddi wrth weddill Israel.

Yn ôl yr Isreiliaid mae hyn yn angenrheidiol oherwydd diogelwch ond mae’r Palesteiniaid yn dweud bod hyn yn amharu yn arw ar fywyd beunyddiol ym Methlehem.

Roedd nifer helaeth o Balesteiniaid yn y sgwâr i groesawu’r Pab ac yn y rhaglen swyddogol mae’r Fatican yn cyfeirio at Mr Abbas fel Llywydd “gwladwriaeth Palesteina” yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cyfffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2012.

Mae Mr Abbas wedi pwysleisio pwysigrwydd ymweliad y Pab.

“Mae eich ymweliad yn llawn ystyr symbolaidd fel amddiffynydd y tlawd a’r rhai sydd wedi eu heithro,” meddai ac ychwanegodd y buasai yn croesawu unrhyw gynllun ganddo i ddod a heddwch i’r Tir Sanctaidd.