Pleidleisio yn yr Wcrain
Mae tua 90% o bleidleiswyr mewn rhanbarthau diwydiannol yn yr Wcráin wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn refferendwm dadleuol, meddai’r trefnwyr.

Yn ôl y canlyniadau hyd yma, roedd 89% o bleidleiswyr yn ardal Donetsk a tua 96% yn ardal Luhansk wedi pleidleisio o blaid torri’n rhydd o’r Wcrain.

Mae cefnogwyr Rwsia, oedd wedi trefnu’r bleidlais, wedi dweud y bydd statws y rhanbarthau yn cael ei drafod yn ddiweddarach.

Mae llywodraeth yr Wcrain a gwledydd y Gorllewin wedi beirniadu’r refferendwm gan ddweud ei fod yn ffars ac yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol. Maen nhw’n cyhuddo Rwsia o geisio ansefydlogi’r sefyllfa fregus yn yr Wcrain mewn ymdrech i geisio ennill mwy o dir, ar ol i’r Crimea dorri’n rhydd o’r Wcrain.

Yn y cyfamser mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi annog y trefnwyr i ohirio’r bleidlais mewn ymdrech i bellhau ei hun oddi wrthyn nhw.

Dros yr wythnosau diwethaf mae cefnogwyr Rwsia wedi meddiannu adeiladau’r llywodraeth gan wrthdaro gyda milwyr a’r heddlu.