Mae Michelle Obama wedi dweud ei bod hi a’i gŵr yn “ffieiddio” at y weithred o gipio dwsinau o ferched ysgol yn Nigeria.

Ddiwrnod cyn Sul y Mamau yn America traddododd Michelle Obama araith wythnosol yr Arlywydd ar ran ei gŵr, gan ddweud fod yr herwgipio ar Ebrill 15 wedi bod yn dorcalon i’r ddau ohonyn nhw.

“Yn y ferched yma rydym ni’n gweld ein merched ni ein hunain,” meddai Mrs Obama, gan gyfeirio ar Malia, 15, a Sasha, 12.

“Rydym ni’n gweld eu gobeithion a’u breuddwydion nhw a gallwn ni ond dychmygu loes calon rhieni’r merched yma ar hyn o bryd.”

Mae mudiad Islamaidd Boko Haram wedi hawlio cyfrifoldeb am gipio dros 200 o ferched o ysgol yn Chibok yng ngogledd-ddwyrain Nigeria.