Papua New Guinea - o wefan swyddogol y wlad
Mae daeargryn pwerus wedi taro Papua New Guinea yn y Môr Tawel i’r gogledd o Awstralia.

Does dim adroddiadau am anafiadau na difrod ar hyn o bryd, ond mae rhybudd tsunami wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Papua New Guinea ac Ynysoedd Solomon gerllaw.

Fe ddigwyddodd y daeargryn a oedd yn mesur 7.5 ar raddfa Richter ar ddyfnder o 19 milltir ar ynys Bougainville.

Mae daeargrynfeydd yn gyffredin yn Papua New Guinea. Mae’r wlad yn gorwedd ar y Cylch Tân – bwa o ddaeargrynfeydd a gweithgaredd folcanig sy’n ymestyn o amgylch glannau’r Môr Tawel.