Perthnasau'n aros am newyddion
Mae pedair awyren filwrol wedi cael eu hanfon i chwilio ardal ddeuehol yng Nghefnfor India i geisio darganfod os yw gwrthrychau sydd wedi’u gweld yn y dŵr yn perthyn i’r awyren Malaysia Airlines.

Roedd un o’r gwrthrychau a gafodd eu gweld gan luniau lloeren yn mesur 82 troedfedd (25 metr) ac roedd yr ail ddarn yn llai.

Fe allai darnau eraill fod yn y dŵr gerllaw’r ardal sydd bedair awr o arfordir Awstralia.

Dywedodd prif weinidog Awstralia Tony Abbott bod disgwyl i’r awyrennau milwrol gyrraedd yr ardal yn ddiweddarach heddiw. Ond fe rybuddiodd y bydd y dasg o ddod o hyd i’r gwrthrychau yn “anodd iawn” ac mae ’na bosibilrwydd nad oes cysylltiad gyda’r awyren.

Fe ddiflannodd yr awyren Boeing 777 ar 8 Mawrth yn ystod ei thaith o Kuala Lumpur i Beijing. Roedd 239 o bobl ar fwrdd yr awyren.