Ann Clwyd
Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi cyhuddo penaethiaid Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro o fod yn “sbeitlyd” ar ôl i fanylion personol am ymchwiliad i farwolaeth ei gŵr gael eu rhyddhau.

Mae hi’n galw am ymddiswyddiad cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd.

Bu farw ei gŵr yng ngofal y bwrdd yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn 2012.

Dywed Ann Clwyd iddi dderbyn llythyr fore ddoe yn rhoi gwybod iddi y byddai gwybodaeth yn cael ei rhyddhau mewn ymateb i gais trwy’r Ddeddf Ryddid Gwybodaeth.

Galwodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones arni ddoe i gyhoeddi’r wybodaeth.

Mewn datganiad neithiwr, dywedodd Ann Clwyd: “Rwy’n gandryll fod hawl fy ngŵr a finnau i breifatrwydd wedi’i fradychu gan Maria Battle (cadeirydd y bwrdd iechyd), ac rwy’n credu nad yw hi bellach yn briodol i fod mewn swydd gyhoeddus.

“Daw hyn yn sgil misoedd o bwysau gan Ms Battle tros hyn, pan ydw i wedi egluro nad oeddwn i am i adroddiad cychwynnol yr ymchwiliad gael ei gyhoeddi.

“Rwy’n dychmygu hefyd fod Adam Cairns fel Prif Weithredwr wedi rhoi cyngor am y mater hwn ac os felly, fe ddylai yntau hefyd ystyried ei sefyllfa.”

‘Sbeitlyd’

Ychwanegodd fod yr ymchwiliad i farwolaeth ei gŵr yn parhau, a’i bod hi wedi bod yn trafod penodi ymchwilwyr annibynnol ar gyfer cam nesaf yr ymchwiliad.

Dywedodd fod gan rywun sy’n gwneud cwyn “yr hawl i gyfrinachedd” a bod ei sefyllfa hithau’n “anfon neges iasol at unrhyw un sy’n meiddio gwneud cwyn am eu triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol”.

“Cyhyd â bod y bobol hyn mewn grym, dydy eich gwybodaeth chi ddim yn ddiogel,” meddai.

“Yn fy marn i, mae’r wybodaeth hon wedi cael ei rhyddhau am resymau sbeitlyd a gwleidyddol, oherwydd fy mod i wedi beirniadu Ysbyty Athrofaol Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae gwybodaeth bersonol fel hyn y tu allan i geisiadau trwy’r Ddeddf Ryddid Gwybodaeth.

“Rwy’n credu mai’r unig ysgogiad yw peri loes i fi.”

Ychwanegodd ei bod hi’n bwriadu gwneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth a’i bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol.

Ymateb y Bwrdd Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Dydyn ni ddim wedi cyhoeddi’r adroddiad ac nid ydym yn bwriadu ei gyhoeddi’n llawn na thorri cyfrinachedd.

“Rydyn ni wedi derbyn nifer o geisiadau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth i ryddhau’r adroddiad llawn, ac rydym wedi gwrthod pob un ar sail cyngor cyfreithiol.

“Bu gofyn unwaith eto’n ddiweddar i ni ryddhau crynodeb o’r adroddiad o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

“Mae gan y bwrdd iechyd ddyletswydd gyfreithiol i ystyried y cais hwn ac fe wnaethon ni geisio cyngor cyfreithiol allanol ynghylch sut i ymateb.

“Ar sail y cyngor arbenigol, ymatebodd y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf i’r cais, gan gyfyngu’r ymateb i’r datganiadau hynny sydd eisoes wedi eu cyhoeddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

“Ers hynny, gofynnodd Miss Clwyd i ni beidio rhannu’r wybodaeth honno’n eang ac felly fe fyddai’n amhriodol gwneud sylw pellach nes ein bod ni wedi cyfarfod â’i chyfreithwyr wyneb yn wyneb.”