Teuluoedd yn aros adeg y diflaniad (PA)
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cysylltu gydag awdurdodau ym Malaysia i gynnig cymorth wrth i’r wlad ddelio gyda diflaniad yr awyren MH370.

Dywedodd David Cameron wrth Brif Weinidog Malaysia, Najib Razak, y byddai’n croesawu unrhyw geisiadau o Malaysia a’i fod yn cydymdeimlo gyda pherthnasau’r 239 o deithwyr oedd ar fwrdd yr awyren.

Dyma’r cysylltiad cyntaf rhwng y ddau brif weinidog ers i’r awyren Boeing 777 ddiflannu ddeng niwrnod yn ôl.

Yn ôl llefarydd ar ran David Cameron, doedd y cynnig ddim yn cynnwys pobol na chymorth milwrol.

Dirgelwch

Mae timau achub o sawl gwlad wedi bod yn chwilio am yr awyren, ond heb ddod o hyd i unrhyw olion hyd yn hyn. Roedd ar ei ffordd i Beijing, prifddinas China, ar ôl cychwyn ar ei thaith o Kuala Lumpur.

Mae Prif Weinidog Malaysia wedi dweud bod yr awyren wedi gwyro oddi ar ei llwybr yn fwriadol, a’i bod wedi  hedfan am chwech awr ar ôl iddi ddiflannu’n llwyr oddi ar sgriniau radar y byd.

Heddiw, dechreuodd awdurdodau yn China chwilio eu tiroedd nhw am unrhyw arwydd o’r awyren.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd iddi yn canolbwyntio ar ardaloedd i’r de a’r gogledd o’r man lle cofnodwyd y cysylltiad diwethaf gyda hi.