Teuluoedd yn aros am newyddion am yr awyren sydd ar goll
Mae’r chwilio am awyren Malaysia Airlines sydd ar goll wedi ehangu i arfordir gorllewinol Malaysia.
Dywed y cwmni awyrennau bod y chwilio wedi ehangu ymhellach o’r safle lle gadawodd yr awyren gyda’r ffocws ar ochr orllewinol y wlad.
Yn ôl dirprwy bennaeth milwrol Fietnam fe fydd y chwilio am yr awyren yn cael ei ymestyn hyd at y ffin a Laos a Cambodia.
Mae’r cyhoeddiadau’n tanlinellu’r trafferthion mae’r awdurdodau yn ei gael i geisio dod o hyd i’r awyren a oedd yn cludo 239 o bobl pan ddiflannodd oddi ar sgriniau radar ddydd Sadwrn.
Ddoe bu’r awdurdodau yn holi asiantaethau teithio yng Ngwlad Thai ynglŷn â dau ddyn oedd yn teithio ar yr awyren gan ddefnyddio pasborts ffug. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a oedd ganddyn nhw unrhyw beth i’w wneud a diflaniad yr awyren.
Roedd dwy ran o dair o’r teithwyr ar yr awyren yn dod o China.