Dynes yn gaeth dan y rwbel ym Mhrifysgol Busan
Mae pedwar o fyfyrwyr wedi marw ac mae ’na bryderon bod 10 yn dal yn gaeth ar ôl i do adeilad ddymchwel yn Ne Corea yn ystod seremoni i gyfarch myfyrwyr.
Cafodd 20 o fyfyrwyr eraill eu hachub a’u cludo i’r ysbyty, yn ôl swyddogion.
Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i 1,000 o fyfyrwyr o Brifysgol Busan ar gyfer astudiaethau tramor ymgynnull ar gyfer y seremoni i gyfarch myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn ninas Gyeongju.
Yn ôl rhai adroddiadau roedd y to wedi dymchwel o ganlyniad i eira trwm ond nid oes rheswm penodol wedi cael ei gyhoeddi’n swyddogol ar hyn o bryd.
Roedd nifer o’r myfyrwyr wedi llwyddo i ddianc o’r adeilad, meddai’r llefarydd.