Map yn dangos lleoliad Yemen yn ne penrhyn Arabia (o wefan Wikipedia)
Mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio Prydeinwyr i beidio â theithio i Yemen, oherwydd pryderon y gallai protestiadau yn erbyn y llywodraeth  arwain at anhrefn llwyr.

Credir bod mwy na 20 o bobl wedi marw mewn helyntion yn y wlad fach ar benrhyn Arabia dros yr wythnosau diwethaf, gydag adroddiadau am filwyr wedi tanio ar brotest heddychlon gan ladd pedwar o bobl ddoe.

Mae gwrthwynebiad cynyddol i lywodraeth yr arlywydd Ali Abdullah Saleh, sydd mewn grym ers 32 mlynedd, ac sydd wedi bod yn gefnogwr allweddol i America yn y rhyfel yn erbyn al Qaida.

“Argymhellwn y dylai pob dinesydd Prydeinig yn Yemen sydd heb angen hanfodol i fod yno adael trwy fanteisio ar y teithiau awyrennau masnachol sydd ar gael ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

Mae’r arlywydd Saleh wedi gwneud amryw o gonsesiynau ers i’r anghydfod ddechrau, gan gynnwys dweud y bydd yn rhoi’r gorau iddi yn 2013.

Fodd bynnag, mae degau o filoedd yn parhau â phrotestiadau yn amryw o ddinasoedd y wlad yn mynnu bod Saleh yn mynd ar unwaith.