Mae dyn o Swydd Warwick wedi’i lofruddio ar ynys St Lucia yn y Caribî, wrth iddo geisio amddiffyn ei wraig rhag ymosodwyr.

Fe gafodd Roger Pratt, 62, ei ladd ar fwrdd ei long hwyliau yn nhre’ Vieux Fort nos Wener.

Mae ei wraig, Margaret, wedi derbyn triniaeth wedi iddi gael ei hanafu yn ystod yr ymosodiad.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau fod “nifer o bobol” yn y ddalfa, ond nad oes neb eto wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.