Nida Ul-Naseer - ar goll ers Rhagfyr 28
Mae’r heddlu sy’n chwilio am ferch o Gasnewydd sydd wedi bod ar goll ers tair wythnos, bellach yn credu nad yw hi eisiau dychwelyd adref.

Ond mae Heddlu Gwent yn apelio ar i Nida Ul-Naseer neu rywun sy’n gwybod yn lle mae hi, i gysylltu i ddweud ei bod hi’n iach ac yn ddiogel.

Y gred ydi fod y ferch 18 oed wedi gadael ei chartre’ ar nos Sadwrn, Rhagfyr 28, yn dilyn ffrae gyda’i theulu.

Er bod yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani ac yn gwneud ymholiadau drws-i-ddrws, dyw Heddlu Gwent ddim nes at wybod yn lle mae hi.

“Mae Nida yn oedolyn, ac mae ganddi berffaith ryddid i adael cartre’,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.