Yingluck Shinawatra, Prif Weinidog Gwlad Thai
Mae comisiwn etholiadol Gwlad Thai wedi annog llywodraeth y wlad i ohirio etholiad sydd i fod i gael ei gynnal ar Chwefror 2, 2014.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y comisiwn yn dilyn saith awr o brotestio treisgar y tu allan i stadiwm chwaraeon lle’r oedd gwleidyddion y tu mewn yn trafod ym mha drefn y byddai eu henwau’n ymddangos ar bapurau pleidleisio.

Mae’r alwad yn ychwanegu at yr ansicrwydd gwleidyddol sydd wedi gafael yn y genedl.

Mewn datganiad ysgrifenedig, mae’r comisiwn yn dweud ei fod yn annod y llywodraeth i “ohirio’r etholiadau”, a hynny oherwydd nad oes “heddwch” ar hyn o bryd rhwng y llywodraeth a’r protestwyr.