Difrod y daeargryn (Martin Luff CCA 2.0)
Mae’n bosibl na fydd rhai o’r cyrff yn naeargryn Seland Newydd yn cael eu ffeindio byth.

Yn ôl achubwyr, mae peryg y bydd llawer wedi eu claddu am byth neu eu malurio wrth i adeiladau ddymchwel.

Fe gafodd pum corff arall eu tynnu o’r rwbel yn Christchurch dros nos gan ddod â nifer swyddogol y meirw i 160.

Ond, mae llawer o bobol yn parhau ar goll ac mae’r heddlu’n rhagweld y gallai’r nifer godi i tua 240 yn y pen draw.

Mae mwy na 900 o achubwyr yn chwilio trwy’r rwbel ond does neb wedi cael eu tynnu allan yn fyw ers wythnos.

Galw am amynedd

Mae Awdurdodau wedi galw ar deuluoedd i fod yn amyneddgar wrth ddisgwyl newyddion am anwyliaid a theulu.

Maen nhw’n pwysleisio mai dim ond drwy DNA neu gofnodion deintyddol y mae posibl adnabod pobl.

Mae’r ymdrech achub wedi’i dal yn ôl hefyd gan wyntoedd cryf ac ôl-gryniadau sy’n bygwth rhagor o ddifrod.

Ymhlith y meirw, mae nifer anhysbys o fyfyrwyr Saesneg o Japan, China a gwledydd eraill a oedd mewn dosbarth yn adeilad cwmni teledu lleol.

Mae Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad i amgylchiadau’r daeargryn a pham fod adeilad y cwmni teledu ac un arall wedi dymchwel yn llwyr.