Viktor Yanukovych, arlywydd yr Wcrain
Mae tua 200,000 o brotestwyr wedi bod yn ymgynull yn sgwâr canolog Kiev, prifddinas yr Wcrain, i brotestio yn erbyn llywodraeth y wlad.

Mae protestiadau wedi cael eu cynnal yno’n ddyddiol ers bron i bedair wythnos ar ôl i’r arlywydd Viktor Yanukovych wrthod arwyddo cytundeb am gysylltiadau agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd, a chlosio at Rwsia yn lle hynny.

Mae Rwsia, a fu’n tra-arglwyddiaethu ar yr Wcrain am ganrifoedd, yn awyddus i greu undeb gwleidyddol tebyg i’r Undeb Ewropeaidd rhwng y ddwy wlad ac a fyddai hefyd yn cynnwys Belarus a Kazakhstan. Yn ôl y protestwyr, fe fyddai hynny’n gyfystyr ag ail-greu’r Undeb Sofietaidd i bob pwrpas, a’u pryder nhw yw y bydd yr arlywydd yn cytuno i hyn pan fydd yn cyfarfod arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ddydd Mawrth.

“Os bydd yn arwyddo cytundeb o’r fath, fe all aros yn Moscow a pheidio â dychwelyd i Kiev,” meddai Arseniy Yatsenyk, un o arweinwyr y gwrthwynebwyr, wrth annerch y dorf heddiw.