Mae elusennau sy’n helpu cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru wedi cael hwb ariannol o £2.4 miliwn o gronfa o ddirwyon cwmniau ariannol.

Daw arian cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog o ddirwyon sy’n cael eu gosod ar gwmnïau ariannol yn y ddinas yn Llundain sy’n cael eu dal yn ystumio cyfraddau cyfnewid Libor. Mae cyfanswm o £12 miliwn ohoni wedi cael eu rhannu rhwng elusennau ledled Prydain.

Mae’r elusen CAIS, sy’n helpu dioddefwyr problemau cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, wedi cael cyfanswm o £1.4 miliwn at ei gwaith.

Fe fydd yr arian yn talu am ddau brosiect i helpu cyn-filwyr sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.

Fe fydd prosiect o’r enw Change Step sydd eisoes ar waith yn y gogledd yn cael ei ehangu ledled Cymru, ac fe fydd prosiect newydd o’r enw Listen In yn cael ei gyflwyno ar gyfer perthnasau a gofalwyr cyn-filwyr.

Amcangyfrifir bod tua 220,000 o gyn-filwyr yn byw yng Nghymru.

Cartrefi i 72 o gyn-filwyr

Mae £976,269 wedi cael ei ddyfarnu hefyd i Alabare Christian Care and Support i helpu darparu cartrefi a swyddi i gyn-filwyr.

Fe fydd yr elusen Alabare yn defnyddio’r arian i agor cartrefi ym Mhontpridd, Caerdydd, Caerfyrddin ac Abertawe ac yn ardal Wrecsam, gyda lle i 72 o gyn-filwyr o fewn 15 o wahanol dai.

Mae disgwyl i’r tŷ cyntaf agor ym mis Ebrill, a phob un o’r 15 i gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn nesaf.

Wrth groesawu’r newyddion am y dyfarniad, dywedodd Andrew Lord, prif weithredwr Alabare:

“Bydd y grant yma o gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn helpu cyn-filwyr bregus yng Nghymru sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref ac yn eu galluogi nhw i ailafael ynddi.

“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r Poppy Factory i helpu cyn-filwyr gael gwaith cyflogedig a buddiol.”