Tai nodweddiadol yn yr ardal sydd wedi'i tharo waetha' (lemurbaby CCA 3.0)
Mae elusen o Gymru’n apelio am gymorth i drychineb sydd, medden nhw, wedi cael ei anwybyddu gan gyfryngau gwledydd Prydain.

Does bron ddim sylw wedi bod i seiclon a drawodd Ynys Madagascar ym Môr India, gan ladd 15 o bobol a dinistrio adeiladau cyhoeddus a ffyrdd. Mae naw o bobol eraill ar goll.

Mae’r elusen Arian i Fadagascar, sydd â’i swyddfa yn Llangadog, wedi lansio apêl brys i helpu’r ynys, sydd â chysylltiadau clos â Chymru trwy genhadon o enwad yr Annibynwyr.

Mae’r elusen wedi derbyn ffigurau swyddogol gan lywodraeth y wlad yn dangos maint y trychineb:

  • Mae’r seiclon wedi effeithio ar bron 85,000 o bobol gyda 6,700 o dai wedi eu distrywio’n llwyr a mwy na 23,000 o bobol yn ddigartref.
  • Fe gafodd 241 o ysgolion eu distrywio neu eu difrodi’n ddrwg, ynghyd ag 16 o ysbytai a chanolfannau iechyd.
  • Problem i’r tymor hir yw bod bron 100,000 o erwau o reis a mwy na 60,000 erw o gnydau eraill wedi’u dinistrio.

Dim sylw

“Dyw trafferthion pobol Madagascar ddim yn cael sylw’n aml yn y wasg Brydeinig, er bod ei bywyd gwyllt yn cael sylw mawr,” meddai Theresa Haine o Langadog, cydlynydd yr elusen.

“R’yn ni wedi sefydlu cronfa frys y bydd ein partneriaid ym Madagascar yn ei defnyddio ar gyfer cymorth ar unwaith ond hefyd er mwyn prynu hadau ac offer i bobol er mwyn iddyn nhw allu codi eu hunain ar eu traed ac ailddechrau.

“Yn anffodus,” meddai, “fe fydd tynged y bobol yn y tymor hir  yn cael effaith andwyol iawn ar allu’r bywyd gwyllt unigryw a rhyfeddol hwn i oroesi, os na fyddan nhw’n cael cymorth.”

Roedd y daeargryn wedi taro gogledd-ddwyrain y wlad ac yn arbennig ardal Maroantsetra – un o’r llefydd gorau i weld bywyd gwyllt Madagascar ar ei orau.

Y cysylltiad Cymreig

Mae llawer o’r prosiectau y mae’r elusen yn eu cefnogi’n cael eu cynnal gan yr eglwys a ddeilliodd o waith cenhadon o Gymru yn yr ynys bron 200 mlynedd yn ôl.

Mae’r cysylltiad gyda chenhadon o blith yr Annibynwyr yng Nghymru wedi parhau tan ddiwedd y ganrif ddiwetha’ ac mae’r enwad yn dal i gefnogi gwaith ym Madagascar.

Y cenhadon cynta’, a aeth yno o Geredigion a Sir Gaerfyrddin yn nechrau’r 19fed ganrif, oedd wedi helpu i roi trefn lenyddol ar iaith y wlad, wedi arwain y gwaith o drosi’r Beibl i’r iaith Malagasy ac wedi gosod seiliau addysg yno.

Rhagor o wybodaeth: www.moneyformadagascar.org