Yr Arlywydd,Viktor Yanukovych
Mae miloedd o bobol wedi amgylchynu adeiladau’r llywodraeth yn Kiev, prif ddinas yr Wcráin, yn galw am i lywodraeth y wlad gael ei diddymu.

Mae pobol yr Iwcrain wedi eu corddi gan fod yr Arlywydd, Viktor Yanukovych, wedi gwrthod cytundeb i’r wlad gael cysylltiadau agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd – a fyddai wedi llacio cyfyngiadau teithio a masnach i’r wlad.

Felly mewn protest, maen nhw wedi gwersylla ar brif sgwâr Kiev ac wedi rhwystro sawl mynedfa at  adeiladau llywodraeth y ddinas. Mae hyn yn dilyn protest dreisgar arall ddydd Sul.

Grym

Bu criw o’r protestwyr yn ceisio cael mynediad at swyddfa’r Arlywydd ond roedd rhaid i’r heddlu ddefnyddio grym i’w hebrwng o’r safle, gan ddefnyddio nwy dagrau a phastynau. Yn ôl adroddiadau, mae dwsinau wedi eu hanafu.

Mae o leiaf tri Aelod Seneddol o Blaid y Rhanbarthau hefyd wedi ymddiswyddo fel rhan o’r brotest.