Llun o brotest yn Benghazi (YouTube)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi galw ar y Cyrnol Gaddafi i ildio grym yn Libya, a hynny ar unwaith. Yn ôl David Cameron, does dim lle i’r unben yn nyfodol y wlad.

Ac fe ddaeth yn amlwg fod ei y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi siarad gyda’r Arlywydd i geisio’i berswadio i rym.

Yn y cyfamser, mae rhagor o weithwyr olew wedi cael eu hachub o’r anialwch ar ôl cyrch gan filwyr arbennig a thair awyren Hercules.

Ond mae rhagor o weithwyr ar ôl ac yn ôl merch un dyn o Lanelli, does dim modd iddyn nhw deithio i gyrraedd diogelwch.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales eu bod nhw gannoedd o filltiroedd o’r brifddinas Tripoli a’i bod yn rhy beryglus iddyn nhw fentro croesi’r anialwch.

Gaddafi’n colli tir

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, mae nifer sylweddol o drefi bellach wedi cael eu cipio gan y gwrthryfelwyr gyda Gaddafi yn sownd yn Tripoli.

Mae’n ymddangos bod y dinasoedd ‘rhydd’ yn eu gosod eu hunain o dan adain llywodraeth tros dro sydd wedi ei sefydlu yn ninas fawr Benghazi yn nwyrain y wlad.

Ond mae’r Arlywydd yn rhoi’r bai ar derfysgwyr Al Qaida am y protestiadau. Ac, unwaith eto, fe ddywedodd wrth deledu Serbia y byddai’n aros ac yn ymladd.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi penderfynu gosod cyfyngiadau ar y Cyrnol Gaddafi a’i deulu a gwledydd fel Prydain wedi gweithredu i rewi ei adnoddau ariannol a’i allu i deithio.

Un gobaith yw y bydd hynny’n tanseilio ei allu i dalu i filwyr cyflog.