Cyrnol Gaddafi - dan bwysau cynyddol
Gyda gwrthwynebwyr y Cyrnol Gaddafi’n dal dinas o fewn 30 milltir i’r brifddinas Tripoli, cynyddu mae’r pwysau ar arweinydd Libya.
Mae gorsafoedd heddlu a swyddfeydd y llywodraeth yn Zawiya, dinas gerllaw porthladd a phurfeydd olew ac iddi boblogaeth o 200,000, wedi cael eu llosgi a graffiti gwrth-Gaddafi i’w weld ymhobman.
Mae cannoedd o wrthryfelwyr a chyn-filwyr i Gaddafi sydd wedi newid ochr yn paratoi eu hunain am ymosodiad tebygol gan luoedd teyrngar i’r unbennaeth sy’n amgylchynu’r ddinas.
Yn nwyrain y wlad hefyd, daw adroddiadau fod dinasoedd sydd o dan reolaeth gwrthryfelwyr wedi penodi cyn-weinidog i arwain llywodraeth dros dro.
Mae dau o seneddwyr blaenllaw yn America’n galw ar Washington i gydnabod ac arfogi llywodraeth dros dro yn y rhannau o’r wlad sy’n cael eu dal gan wrthryfelwyr – ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton wedi ategu galwad yr Arlywydd Obama ar i Gaddafi i ildio grym.
Mae llywodraeth Prydain hefyd wedi ymuno yn y galwadau ar i Gaddafi ymddiswyddo.
“Wrth gwrs ei bod hi’n bryd i’r Cyrnol Gaddafi fynd – dyna’r gobaith gorau i Libya,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor William Hague.
Rhewi asedau
Dywedodd ei fod wedi diddymu imiwnedd diplomyddol i’r unbennaeth a’i deulu a bod y Trysorlys yn rhewi unrhyw asedau y maen nhw’n eu dal ym Mhrydain. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i gyfeirio gormes treisgar cyfundrefn Gaddafi at y Llys Troseddol Rhyngwladol.
Yn y cyfamser, mae awyren wedi glanio ym maes awyr Gatwick ar ôl hedfan o Malta heno’n cludo 78 o Brydeinwyr, sy’n cynnwys gweithwyr olew a gafodd eu cludo gan luoedd arbennig o leoliadau anghysbell yn yr anialwch yn Libya ddoe.
Mae disgwyl y bydd awyren arall ar ei ffordd o Malta yn fuan.
Cadarnhaodd William Hague fod y cyrch, a oedd yn defnyddio awyrennau Hercules y Llu Awyr – wedi cael ei gyflawni heb ganiatâd yr awdurdodau yn Tripoli. Ond gwrthododd â dweud a oedd cyrchoedd eraill tebyg ar y gweill.
Cadarnhaodd hefyd fod y cyn-brif weinidog Tony Blair wedi bod yn siarad ar y ffôn gyda Gaddafi dros y dyddiau diwethaf. Yn ôl adroddiadau, roedd y llywodraeth wedi gofyn iddo bwyso ar Gaddafi i adael.
A dywedodd fod Tony Blair wedi bod yn iawn i estyn “llaw o gyfeillgarwch” i’r gyfundrefn yn yr 1990au – yn gyfnewid am ymwrthod â therfysgaeth a rhoi’r gorau i’w huchelgais i ddatblygu arfau niwclear.
“Pe na baen ni wedi gwneud hynny fe fydden ni mewn gwaeth sefyllfa’n awr,” meddai William Hague.