Mae prif weinidog Tunisia, Mohamed Ghannouchi, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar ôl rhagor o helyntion yn y wlad dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.

Roedd Ghannouchi yn un o gefngwyr mwyaf selog yr arlywydd Zine El Abidine Ben Ali, ac roedd wedi addo arwain y wlad hyd nes y gellir cynnal etholiadau yr haf yma.

Fe wnaeth Ben Ali ffoi o’r wlad ar 14 Ionawr yng nghanol protestiadau torfol anferth.