Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae dyn o Gymru oedd ynghanol anialwch Libya wedi dychwelyd adref o’r diwedd.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns, wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i helpu i ddod a Richard Foscolo yn ôl i Brydain.

Roedd y tad i dri, 39 oed, wedi bod yn gweithio ar faes olew yn Ghani, naw awr mewn car o’r brifddinas Tripoli, pan ddechreuodd y protestio.

Dywedodd Richard Foscolo, o’r Barri, ei fod wedi dechrau poeni pan dorrodd y system cyfathrebu.

Ychwanegodd ei fod o a’r gwethwyr eraill wedi clywed adroddiadau bod milisia o’r enw Y Cysgod Du ar eu ffordd i ymosod arnynt.

E aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Cymro a’i gyd-weithwyr ar ôl i luoedd diogelwch y maes olew ddiflannu.

Drwy hap a damwain glaniodd awyren a oedd yn teithio i faes olew arall gerllaw, a cytuno i gludo’r Cymro i Faes Awyr Tripoli.

“Ar un llaw ro’n i’n lwcus fy mod i’n bell o’r holl frwydro a phrotestio,” meddai.

“Ond roedd bod ynghanol nunlle yn broblem hefyd. Roedden ni’n poeni y byddai pobol yn anghofio amdanom ni ac y byddai bwyd a dŵr yn mynd yn brin.

“Mae’n rhyddhad mawr cael bod adref gyda fy nheulu, ond rydw i wedi ymlâdd ac eisiau llonydd.

“Rwy’n lwcus i fod adref ac fe fyddwn i’n dal yno os nad oedd yr awyren wedi glanio. Ond mae gymaint o bobol o wledydd eraill yn dal i fod yn Libya.”

Anrhefn

Ychwanegodd Richard Foscolo ei fod wedi synnu gyda’r anrhefn oedd yn ei ddisgwyl ym Maes Awyr Tripoli, wrth i nifer o bobl geisio ffoi’r wlad.

Ond er gwaethaf y feirniadaeth sydd wedi bod ynglŷn ag ymdrechion Llywodraeth San Steffan i gludo Prydeinwyr allan o Libya, mae Richard Foscolo wedi canmol y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad am sicrhau taith adref iddo.

“Roedd yn syndod faint o bobl oedd ym maes awyr yn Libya. Ond fe wnaeth y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, ac yn enwedig llysgennad o’r enw Nick Latter, bob ymdrech i’n helpu ni,” meddai.

Fe gyrhaeddodd Maes Awyr Gatwick am 4.00am, gan synnu ei deulu nad oedd yn ymwybodol ei fod ar ei ffordd adref.

“Roedd y teulu wedi cyfarfod â fi yng ngorsaf Caerdydd ac roedd hynny’n brofiad emosiynol,” meddai.

“Roedd yn rhyddhad i fy ngwraig yn enwedig gan ei bod yn meddwl y byddwn i yn Libya am llawer hirach.”

Mae Richard Foscolo wedi dweud bod natur ei swydd yn golygu bod gweithio tramor yn bosib – ond ei fod am ddewis gwlad yn fwy gofalus yn y dyfodol.

Ymateb Alun Cairns

“Ar ôl wythnos drawmatig hedfanodd Richard Foscolo o’r anialwch yn Ghani i faes awyr y tu allan i Tripoli,” meddai Alun Cairns.

“Hedfanodd o’r fan honno i Gatwick, gan gyrraedd am 3.30am bore ma.

“Mae’r teulu wrth eu bodd ei fod wedi cyrraedd adref yn saff ac yn hynod o ddiolchgar am y cymorth a’r gefnogaeth gan deulu a ffrindiau.

“Rydw i’n teimlo fod y sylw yn y wasg wedi gwneud i’r Llywodraeth ddeall y sefyllfa y mae gweithwyr o’r fath ynddo.

“Mae’n rhyddhad iddyn nhw bod diweddglo hapus yn yr achos yma.”