Mae chwe glöwr wedi marw ac mae pum glöwr arall wedi eu hanafu yn dilyn gollyngiad nwy mewn pwll glo yng ngogledd Sbaen.

Digwyddodd y ddamwain ym mhwll Santa Lucia ger tref Pola de Gordón yn nhalaith León.

Mae’r glöwyr sydd wedi eu hanafu wedi cael eu cludo i ysbyty yn León.

Dywed y papur newydd El Pais y gallai’r glowyr fod wedi marw am eu bod wedi anadlu’r nwy yn y pwll sydd 2,300 troedfedd dan ddaear.