Mae o leiaf 64 o bobl wedi marw mewn gwasgfa wrth i luoedd o addolwyr Hindŵ groesi pont i deml yng nghanolbarth India.
Mae dros gant yn rhagor yn cael triniaeth i’w hanafiadau mewn ysbyty.
Fe fu’r heddlu’n defnyddio ffyn i geisio gwasgaru’r torfeydd o filoedd a oedd wedi mynd allan o reolaeth yn nhalaith Madhya Pradesh.
Yn ôl rhai amcangyfrifon roedd tua 500,000 o bobl wedi mynd i deml yno i anrhydeddu’r fam dduwies Hindŵaidd Durga ar ddiwrnod olaf gŵyl Navaratra.
Nid yw’n ymddangos bod y trychineb yma’n gysylltiedig â Seiclon Phallin sydd wedi taro arfordir dwyreiniol y wlad.