Mae Pen yr Ole Wen yn rhan o fynyddoedd y Carneddau yn Eryri
Mae dringwr wedi dioddef anafiadau difrifol iawn ar ôl i ddarn o graig ddisgyn ar ei goes ar un o fynyddoedd Eryri.
Roedd yn un o ddau ddringwr profiadol a oedd wedi cychwyn i fyny crib ar fynydd Pen yr Ole Wen gerllaw Llyn Ogwen fore ddoe.
Fe ddaeth darn mawr o graig yn rhydd gan ddisgyn ar y dringwr a malu rhan o’i goes. Cafodd ei achub gan aelodau o dimau achub Dyffryn Ogwen a Llu Awyr y Fali, a chafodd ei hedfan i uned damweiniau difrifol ysbyty Stoke on Trent yn Swydd Stafford am driniaeth.