Ban Ki-Moon
Dywed arolygwyr y Cenhedloedd Unedig bod ’na “dystiolaeth glir a phendant” bod arfau cemegol wedi cael eu defnyddio yn ystod ymosodiad yn Syria fis diwethaf, gan ladd cannoedd o bobl.
Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw roedd samplau amgylcheddol, cemegol a meddygol a gasglwyd yn dangos bod y nwy sarin wedi cael ei ddefnyddio yn yr ymosodiad yn Damascus ar 21 Awst.
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon, gyflwyno’r adroddiad i Gyngor Diogelwch y CU.