Yr atomfa wedi'r daeargryn (Llun AYNRh)
Mae mwy na 300 tunnell o ddŵr ymbelydrol wedi gollwng o un o danciau storio pwerdy niwcliar Fukushima, yn ôl rheolwyr yr orsaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Tokyo Electric Power Co (Tepco) o Japan fod y dŵr ymbelydrol wedi diferu o danc dur yn y pwerdy, a gafodd ei ddifrodi yn gan ddaeargryn a swnami ym mis Mawrth 2011.

Dyma’r digwyddiad mwya’ difrifol ers hynny.

Y manylion

Dywedodd Masayuki Ono fod y dŵr ymbelydrol wedi diferu i’r ddaear ar ôl i fagiau tywod a bariau concrid fethu ag atal y llif. Ychwanegodd fod gweithwyr yn ceisio pwmpio’r dŵr sy’n weddill yn y tanc a’i symud i danc arall.

Mae’n ymddangos fod lefel ymbelydrol y dŵr bump gwaith yn fwy na’r lefel sy’n ddiogel ar gyfer gweithwyr ac mae swyddogion o’r pwerdy yn ymchwilio i sut yn union y digwyddodd y ddamwain.

Tanciau diogel

Pan gafodd pwerdy Fukushima ei ddifrodi, cafodd tanciau arbennig eu hadeiladu o amgylch y pwerdy i storio’r dŵr llygredig o’r adweithyddion.

Ers y trychineb, mae dŵr ymbelydrol wedi bod yn gollwng o danciau eraill ar y safle ond nid i’r fath raddau â hyn.

Yn y gorffennol, mae rhywfaint o’r dŵr yn cyrraedd y môr.