San Ffolant
Bydd y cyn-chwaraewr tenis Jennifer Capriati yn sefyll ei phrawf gan wynebu cyhuddiadau o stelcian a dyrnu cyn-gariad iddi.

Honnir bod Capriati wedi dyrnu Ivan Brannan tra’r oedd yn ymarfer ei gorff mewn campfa ar ddydd San Ffolant.

Mae’r awdurdodau yn dweud bod Capriati wedi stelcian Brannan am fisoedd cyn yr ymosodiad.

Ond yn ôl cyfreithwyr Capriati, sy’n 37 oed, nid oes unrhyw sail i’r cyhuddiadau.

Bydd yr achos yn cychwyn ar Ragfyr 17.

Chwarae’n ifanc

Mi ddechreuodd Jennifer Capriati chwarae’n broffesiynol yn 13 oed, ac ennill Pencampwriaethau Agored Ffrainc ac Awstralia, a chipio medal aur yn Olympics Barcelona yn 1992.

Ond ers hynny mae hi wedi ei harestio am ddwyn o siop a meddu ar fariwana.