Mae tua 1,500 o bobl wedi ffoi o’u cartrefi a thri wedi’u hanafu ar ôl i dannau gwyllt ym mynyddoedd  de Califfornia lledu’n gyflym.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân yng Nghaliffornia bod y tan ym Mynyddoedd San Jacinto “allan o reolaeth.”

Cafodd dau o ddiffoddwyr tân ac un person arall eu hanafu.

Mae mwy na 500 o ddiffoddwyr tân, a 5 hofrennydd yn ceisio dod a’r fflamau dan reolaeth a diogelu cartrefi.