Nelson Mandela yn dathlu ei benblwydd yn 94 oed y llynedd (llun: PA)
Mae gobaith y bydd Nelson Mandela yn cael mynd adref o’r ysbyty’n fuan.
Er gwaethaf ofnau ei fod ar ei wely angau rai wythosau’n ôl, mae cyflwr cyn-arlywydd De Affrica’n cael ei ddisgrifio fel difrifol ond sefydlog.
Yn ôl cyfaill iddo, Thabo Mbeki, un arall o gyn-arlywyddion y wlad, y disgwyl yw y bydd Mandela’n cael mynd adref i gryfhau.
Mae wedi bod mewn ysbyty ers dros bum wythnos yn dioddef haint parhaus i’w ysgyfaint, a dywed ffrindiau iddo fod peiriant yn ei helpu i anadlu.
Fe fydd yn cael ei benblwydd yn 95 oed ddydd Iau.