Kashmir
Mae’r fyddin yn India wedi lladd dau berson ac anafu un arall yn Kashmir. Mae hyn wedi arwain at brotestiadau gwrth-India enfawr yn y rhanbarth.
Cyn i’r wawr dorri ddoe, roedd milwyr wedi amgylchynu tai ym mhentref Markondal pan wnaethon nhw saethu a lladd bachgen yn ei arddegau.
Wrth i bentrefwyr brotestio a thaflu cerrig at gerbyd y milwyr, fe wnaethon nhw saethu unwaith yn rhagor gan ladd un dyn ac anafu un arall.
Mae swyddogion byddin India yn ymchwilio i’r digwyddiad.