Arlywydd Mohammed Morsi
Mae miloedd o bobl wedi dod ynghyd yn yr Aifft i brotestio yn erbyn Arlywydd Mohammed Morsi.

Daeth yn arlywydd union flwyddyn yn ôl ar ôl ennill etholiad oedd yn cael ei ystyried yn etholiad teg a democrataidd.

Ond mae ei wrthwynebwyr yn anhapus am yr hyn wëid ei gyflawni yn ei flwyddyn gyntaf fel arkwydd. Maen nhw’n honni nad ydi Arlywydd Morsi wedi taclo problemau economaidd a diogelwch y wlad.

Mae miloedd wedi ymgynnull yng Nghairo, ac mae protestiadau yn cael eu cynnal hefyd yn ninas Alexandria ac ym Mhort Said. Mae ralïau protest hefyd yn cael eu cynnal yn Suez, Monofia a Sharqiya, lle gafodd Arlywydd Morsi ei eni.

Mae ei gefnogwyr yn dweud fod Mr Morsi wedi cael ei ethol yn ddemocrataidd ac fe ddylai gael y cyfle i aros yn ei swydd ond mae ei wrthwynebwyr yn dweud fod 22 miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb sy’n galw am etholiad brys.

Bwriad y protestwyr yn Cairo yw gorymdeithio at balas yr arlywydd.