Protestiadau Twrci dros y penwythnos (llun PA)
Mae heddlu Twrci wedi bod yn tanio nwy dagrau ar brotestwyr neithiwr ar y bedwaredd noson o wrthdaro gwleidyddol yn y wlad.

Mae’r Prif Weinidog Recep Tayyip Erdogan yn gwrthod galwadau’r protestwyr arno i ymddiswyddo. Ar y llaw arall, mae arlywydd y wlad, Abdullah Gul, wedi canmol y protestwyr am weithredu eu hawliau democrataidd.

Dechreuodd yr helyntion ddydd Gwener gyda chyrch gan yr heddlu yn erbyn protest ddi-drais yn erbyn cynlluniau i ddiwreiddio coed yn sgwar Taksim yn Istanbul. Maen nhw bellach wedi datblygu i fod y protestiadau mwyaf ers blynyddoedd yn erbyn llywodraeth Twrci.

Parhaodd yr helyntion yn Istanbul ac Ankara neithiwr, ac mae prif gyfnewidfa stoc y wlad wedi gostwng 10.5% yn sgil pryderon am ansefydlogrwydd.